Mae ysgrifennydd tramor Pacistan wedi gwysio Uwch Gomisiynydd Prydain i’w weld, wrth i’r ddadl ddiplomyddol ynglŷn â sylwadau gan y Prif Weinidog David Cameron barhau.

Daw’r cyfarfod rhwng Adam Thomson a Shah Mehmood Qureshi ddiwrnod cyn ymweliad Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, â Phrydain.

Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Prydain, fe wnaeth y ddau drafod llawer o faterion, a mynnodd fod gan Brydain berthynas “dda a chryf” efo Pacistan.

Ac wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd fod David Cameron yn dal at ei sylwadau.

Dicter

Roedd sylwadau a wnaed gan David Cameron yn ystod ymweliad ag India, wedi derbyn ymateb chwyrn ym Mhacistan.

Awgrymodd fod elfennau yn y wlad yn “edrych y ddwy ffordd” ar y mater o drais Islamaidd, ac yn hybu “allforio terfysg.”

Yn dilyn hyn fe wnaeth protestwyr losgi delw o David Cameron yn Karachi, ac fe gafodd cyfarfod rhwng swyddogion gwasanaethau cudd Pacistan a Phrydain yn Llundain eu canslo.

Mae Prif Weinidog Pacistan, Yousaf Raza Gilani, hefyd wedi mynegi dicter am y sylwadau.