Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio arbrawf newydd ar Faes yr Eisteddfod heddiw.
Maen nhw’n gwahodd pobl o bob rhan o Gymru i fynegi eu safbwynt oddi ar Focs Sebon sydd wedi ei godi tu allan i’r Uned ar y Maes.
Fel rhan o’r arbrawf, bydd cynrychiolwyr o wahanol gymunedau drwy Gymru yn cael cyfle i fynegi barn yn gyhoeddus ar y pynciau hynny sy’n achosi pryder iddynt ar y bocs sebon am ddeng munud i chwarter awr.
Dychan
“Dydw i ddim yn hoff o siarad yn gyhoeddus felly dw i wedi creu cerddi digri’ sy’n dychan y Cymry sydd ohoni,” meddai Glyn Jones, Cadeirydd Cymdeithas rhanbarth Clwyd sydd wedi cyfrannu yn ystod y prynhawn .
“Mewn ardal Saesneg eu hiaith ond Cymraeg ei hysbryd, mae’n gyfle i bawb o bob rhan o Gymru i sôn am beth sy’n peri pryder iddyn nhw,” meddai wrth Golwg360.
“Mi es yn fore niwlog
Am dro drwy Gymry dlawd
I weld beth oedd ei hanes
I weld beth oedd ei ffawd.
“Ces fys i Abergele
A’r dreifar drodd yn flin
A dwedyd Abergeli I think
Is where you mean.’
“Dw i’n poeni fwyaf ein bod ni’n dwristiaid yn ein gwlad ein hunaun a bod dim parch i Gymreictod, a bod arddel yr iaith bron yn drosedd,” meddai Glyn Jones wrth Golwg360.
Fe ddywedodd ei fod yn meddwl ei fod y Bocs Sebon yn “syniad da” gan y bydd yn “rhoi cyfle i bobl siarad am “beth sy’n bwysig iddyn nhw.”