Ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Golwg360 yn deall fod nifer o deithwyr o Ogledd Cymru wedi cael trafferthion yn dod o hyd i’r eisteddfod oherwydd ‘diffyg arwyddion.’
Fe ddywedodd Anwen Lewis o Walchmai yn Sir Fôn nad oedd wedi gweld “un arwydd eisteddfod rhwng dinas Bangor a’r Fenni” lle mae’n aros mewn gwesty.
“Roedden ni’n disgwyl gweld dreigiau coch ac arwyddion ar y ffordd fel yn Eisteddfod y Bala, ond doedd dim byd fel ‘na o gwbl,” meddai wrth Golwg360.
Hefyd, fe ddywedodd nad oedd pobl y Fenni fel pe baen nhw’n gwybod unrhyw beth am yr eisteddfod.“Fe wnaeth un dyn oedd yn gweithio mewn bwyty Indiaidd ofyn i ni neithiwr os oedden ni’n mynd i’r sioe ceffylau a gwartheg – roedd rhaid i ni egluro wedyn mai i’r eisteddfod oedden ni’n mynd.
“Tydi pobl yma jest ddim yn gwybod am y digwyddiad,” meddai.
Dros gant a hanner o filltiroedd
Hefyd, roedd gweithiwr iechyd o Gaernarfon wedi teithio 160 o filltiroedd o Gaernarfon “cyn gweld yr arwydd eisteddfod gyntaf,” meddai wrth Golwg360.
“Ym mlaenau’r cymoedd oedd yr arwydd Eisteddfod cyntaf,” meddai Linda Hughes o Gaernarfon.
“Pan mae rhywun yn meddwl am yr holl bobl ifanc sy’n dod i’r eisteddfod ar ôl pasio’u prawf – fedrai weld eu hanner nhw’n cyrraedd Caerdydd,” meddai.
“Doedd dim arwyddion ar y cylchfannau o’r A470 i gyfeiriad Glyn Ebwy,” dywedodd cyn dweud ei bod wedi arfer teithio i Gaerdydd ond nad ydyw fel llawer, mae’n debyg yn “gyfarwydd â’r ardal hon.”
“Os ydyn nhw’n trio annog mwy o bobl ifanc i ddod i’r eisteddfod – byddai mwy o arwyddion yn help,” meddai.
“Un arwydd”
Fe ddywedodd myfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor wrth Golwg360 mai dim ond “un arwydd” a welodd ar y ffordd i’r Eisteddfod o’r gogledd.
“Doedd gen i ddim syniad am leoliad yr eisteddfod. Doeddwn i ddim yn nabod y lle o gwbl,” meddai Guto Dafydd o Drefor.
“Roeddwn i’n digwydd cofio fod y maes carafanau yn ymyl ystâd ddiwydiannol – felly fe aethon ni i fanno. Roedden ni wedi bod yn mynd rownd Tredegar am chwarter awr,” meddai cyn dweud y byddai “mwy o arwyddion yn gwneud lles.”
“Yn y dref ei hun, doedd gennym ni ddim syniad sut i fynd i’r maes carafanau,” meddai cyn dweud ei fod tua phedair milltir o’r maes.