Fe fydd angladd Raoul Moat yn cael ei gynnal yn agos i’w gartref yn Newcastle heddiw.
Fe laddodd Raoul Moat ei hun ar ôl ceisio osgoi’r heddlu am wythnos wedi’i iddo saethu ei gyn bartner, Sam Stobbart, lladd ei chariad hi, Chris Brown, a saethu’r heddwas David Rathband.
Mae’r angladd yn cael ei chynnal yn amlosgfa West Road, lai na milltir o’i dŷ yn Fenham Hall Drive.
Mae ei deulu wedi dweud ei fod am gael ei amlosgi er mwyn osgoi cael pobl yn talu gwrogaeth iddo wrth ei fedd. Fe fydd ei lwch yn cael ei wasgaru mewn man cyfrinachol.
Roedd teulu Raoul Moat wedi talu am ail post-mortem ar gorff Raoul Moat oherwydd ei bod nhw’n teimlo bod ‘na gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â’i farwolaeth.
Roedd y post mortem cyntaf wedi casglu bod achos ei farwolaeth o glwyf gan ddryll yn gyson â’r gwn oedd yn ei feddiant.
Ond ar ôl gweld corff Raoul Moat a chlywed bod yr heddlu wedi saethu ef gyda gwn taser ar yr un adeg â’i farwolaeth roedd y teulu’n awyddus i gael ail post mortem.
Fe daloedd y teulu £600 am yr ail archwiliad ac fe fydd y canlyniadau’n cael eu rhyddhau’r wythnos nesaf.