Mae trenau prif reilffordd Trenau Arriva Cymru am gael eu hadnewyddu yn sgil buddsoddiad gan y cwmni a Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r llywodraeth yn cyfrannu £7.5 miliwn at y rhaglen wella cyfleusterau a bydd yn cael ei weithredu dros yr 18 mis nesaf.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys seddi newydd, system wybodaeth i deithwyr, cyfleusterau gwell i storio bagiau, lle ychwanegol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn, yn ogystal â thai bach newydd.

Mae disgwyl i’r gwaith ar drenau Dosbarth 158 ddechrau ym mis Rhagfyr 2010, a dylai’r rhaglen ar gyfer pob un o’r 24 o unedau fod wedi’i chwblhau erbyn haf 2012.

Bydd teithwyr yn dechrau gweld y trenau sydd wedi’u hailwampio o fis Ionawr 2011 ymlaen, pan fydd yr unedau cyntaf yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio.

‘Mwy dymunol’

“Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio i ailwampio a moderneiddio trenau Arriva yn sicrhau amgylchedd teithio llawer gwell i deithwyr,” meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.

“Ein nod ni yw gwneud y profiad o deithio’n fwy dymunol. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau trenau yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol ac rydyn ni’n buddsoddi yn y gwelliannau hyn er mwyn gwneud teithiau pobl yn fwy cyffyrddus a dymunol.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith ailwampio hwn, yn ogystal â’n buddsoddiad sylweddol yn y gwaith o wella gorsafoedd trenau Cymru, yn annog mwy o bobl i adael eu ceir a defnyddio ein trenau,” ychwanegodd Ieuan Wyn Jones.