Mae’n sicr bellach y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn mynd i Fro Morgannwg.

Mae Golwg360 yn deall y bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud ar ôl cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod.

Mae’n debyg fod maes wedi ei gael yn ardal Llandŵ, yn agos at drefi’r Bontfaen a Llanilltud Fawr yng nghanol yr ardal hanesyddol.

A Sir Fynwy hefyd

Y disgwyl hefyd yw y bydd Cyngor Sir Fynwy’n gwahodd y Brifwyl ac y gallai fynd i’r ardal honno yn 2016.

Dealltwriaeth Golwg360 yw bod y Cyngor Sir yno’n frwd iawn tros gynnal yr Ŵyl, mewn ardal sydd heb gynnal yr Eisteddfod yn y cyfnod modern.

Mae’n golygu bod y Brifwyl yn wynebu nifer o eisteddfodau mewn ardaloedd lle mae’r iaith wedi bod yn gymharol wan yn ystod y degawdau diwetha’.

Safle ‘ardderchog’

Mae’r safle yn y Fro agos at drac rasio a chertio ac, yn ôl un sy’n gyfarwydd â’r safle, fe fydd yn Faes ardderchog.

Y tebygrwydd yw y bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr ardal ym mis Medi er mwyn codi Pwyllgor Gwaith lleol a swyddogion.

Hwn fydd y tro cynta’ i’r Eisteddfod fynd yn ôl i’r Fro ers yr ŵyl yn y Barri yn 1968.

Cartref am chwe blynedd

Bellach, mae’r Eisteddfod yn dilyn trefn o gydweithio gyda Chymdeithas Cynghorau Lleol Cymru, gyda phob sir yn cyfrannu at gronfa ganolog.

Os yw’n bosib, fe fydd yr ŵyl yn ymweld â’r siroedd yn eu tro, er y gall prinder tir addas achosi problemau mewn rhai ardaloedd. Er enghraifft, mae’n annhebygol o fynd yn ôl eto i Flaenau Gwent lle mae’r Eisteddfod eleni.

Os bydd yr holl gynlluniau’n dod i fwcwl, mae gan yr Eisteddfod gartref am y chwe blynedd nesa’ – Wrecsam yn 2011, Bro Morgannwg yn 2012, Sir Ddinbych yn bosibilrwydd ar gyfer 2013, wedyn Sir Gaerfyrddin yn 2014 a Sir Drefaldwyn yn 2015.

Llun: Cerrig yr Orsedd – ar eu ffordd i’r Fro