Mae llwyddiant yr Eisteddfod wrth ddenu pobol leol i’r Maes ddoe yn dangos fod yna botensial mawr i gynnal ymgyrch o blaid y Gymraeg yn ardal blaenau’r Cymoedd.
Dyna farn Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl i fwy na 25,000 o bobol dyrru i’r ŵyl yng Nglyn Ebwy, gan fanteisio ar gynnig arbennig o docynnau am ddim.
Yn ôl Elfed Roberts, roedd y mwyafrif yn bobol o’r ardal, gan gynnwys llawer iawn o deuluoedd ac roedd yna deimlad gwresog iawn tuag at y Gymraeg.
‘Angen ymgyrch’
“Mae yna botensial anferth yn yr ardal yma,” meddai. “Mi fyddai ymgyrch dros yr iaith yn talu ar ei chanfed.
“Does dim ond angen crafu o dan yr wyneb i ddod o hyd i gefnogaeth i’r Gymraeg. Mae yna gyfle da yma.”
Roedd yr Eisteddfod wedi cael grant ychwanegol o £25,000 er mwyn cynnig y tocynnau am ddim ac roedd pecynnau arbennig wedi eu creu er mwyn croesawu pobol i’r Maes.
‘Teimlad anhygoel’
Roedd busnesau hefyd yn dweud ei bod yn brysur iawn, roedd yna fynd mawr ar nwyddau’r Eisteddfod ei hun ac roedd y Pafiliwn yn anarferol o lawn.
“Roedd yna deimlad anhygoel yma,” meddai Elfed Roberts. “Ac rydan ni wedi dangos i bobol yr ardal bod y Gymraeg yn iaith fyw bob dydd.”
Llun: Elfed Roberts