Mae cyfanswm o 34 o bobol wedi marw yn Rwsia mewn tanau sydd wedi llosgi cannoedd ar filoedd o erwau yng nghanolbarth a gorllewin y wlad.

Fe ddywedodd swyddogion y Llywodraeth bod 28 o bobol wedi marw dros y penwythnos yn unig gyda’r tanau’n sgubo tros 316,000 o erwau.

Mae Gweinidog Ynni Rwsia, Vladimir Stepanov, yn dweud bod y tanau bellach yn cael eu rheoli ac mai dim ond 7,000 o erwau sy’n dal i losgi.

Roedd yna 500 o danau newydd wedi cael eu cofnodi dros y 24 awr ddiwethaf, ond mae’r rhan fwya’ wedi cael eu diffodd.

Mae 1,500 o gartrefi wedi cael eu dinistrio gan y fflamau ar ôl i dywydd poeth iawn sychu’r tir mewn coedwigoedd a chaeau.

Mae Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin, wedi cyhoeddi y bydd y Llywodraeth yn rhoi £105m tuag at helpu’r rhai hynny sydd wedi cael eu heffeithio.