Mae yna adroddiadau bod chwaraewr canol cae Man Utd, Anderson, wedi cael ei dynnu’n anymwybodol o gar, ychydig eiliadau cyn i’r cerbyd ffrwydro.

Yn ôl papur newydd Jornal de Noticias ym Mhortiwgal, roedd y gŵr o Frasil wedi treulio noswaith mewn clwb nos cyn y ddamwain yn ardal Braga ym Mhortiwgal.

Fe gafodd Anderson a dau berson arall- dyn a menyw eu trin yn Ysbyty Braga.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty bod y tri wedi dioddef man anafiadau, ond roedd y
fenyw angen mwy o driniaeth na’r ddau ddyn.

Mae Anderson eisoes yn gwella o anaf i’w ben-glin a oedd wedi ei atal rhag chwarae i Frasil yng Nghwpan y Byd dros yr haf.

Mae cynrychiolwyr y chwaraewr wedi dweud y bydd yn dychwelyd i Fanceinion yn fuan.