Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod dau filwr wedi marw mewn digwyddiadau gwahanol yn ne Afghanistan.
Bu farw un milwr gyda Bataliwn Gwarchodlu’r Alban ar ôl cael ei saethu yn ardal Lashkar Gah yn nhalaith Helmand ddoe.
Bu farw môr-filwr gyda 40 Commando mewn ffrwydrad tra oedd ar batrôl yn ardal Sangin yn nhalaith Helmand. Mae teulu’r ddau filwr wedi cael eu gwybod.
Dywedodd yr Is-gyrnol David Southall bod y ddau filwr wedi rhoi eu bywydau yn sicrhau diogelwch i bobol Afghanistan.
Doedd y marwolaethau diweddaraf ddim yn gysylltiedig gyda’r ymgyrch filwrol Tor Shezada.
Mae cannoedd o filwyr Prydeinig yn rhan o’r ymgyrch a ddechreuodd ddydd Gwener ar y cyd gyda byddin Afghanistan.
Maen nhw’n ceisio gwthio’r gwrthryfelwyr allan o ardal Sayedebad yn ne Nad-e Ali tra bod byddin yr Unol Daleithiau yn cynnal ymgyrch debyg yng ngogledd Marjah.