Fe fydd dyn o Gaernarfon sydd wedi cael ei holi ynglŷn ag anfon pecyn ffrwydrol at MI6, yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi’i gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Bydd Aly Akbar Khan, 52 oed, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon wedi’i gyhuddo o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Mae dyn 21 oed a gafodd ei arestio ynglŷn â’r pecynnau ffrwydrol wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Fe gafodd y ddau ddyn eu harestio ddydd Gwener diwethaf mewn cartrefi gwahanol yng Nghaernarfon. Fe gafodd y ddau gyfeiriad eu chwilio gan yr heddlu.
Roedd pecyn amheus wedi cael ei ganfod ym mhencadlys MI6 yn Vauxhall, de Llundain brynhawn dydd Mercher diwethaf.
Fe ddaethpwyd o hyd i ail becyn mewn swyddfa dosbarthu yn ne Llundain am tua 4.30pm dydd Iau diwethaf.