Llwyddodd Morgannwg i guro Swydd Gaerloyw o 176 rhediad yn Cheltenham heddiw – diolch i fowlio dawnus James Harris a’r hat-tric cyntaf erioed gan y troellwr Robert Croft.
Croft yw’r cyntaf o droellwyr Morgannwg i ennill hat-tric ers i Don Sheppard gyflawni’r gamp yn erbyn Hampshire yn Abertawe yn 1964. Gorffennodd gyda pedwar am 20 mewn 6.3 pelawd.
Yn ystod sesiwn y bore, roedd Morgannwg wedi ychwanegu 88 o rediadau at eu cyfanswm, gan olygu y byddai ar Swydd Gaerloyw angen 345 i ennill.
Llwyddodd yr ymwelwyr o Gymry i’w bowlio allan mewn 168 yn eu hail fatiad.
Mae Morgannwg yn yr ail safle y tu ôl i Sussex yn Ail Adran Pencampwriaeth yr LV=, a swydd Gaerloyw bellach wedi disgyn i’r pedwerydd safle..
Llun: Troellwr Morgannwg, Robert Croft