Bydd arlywydd Pacistan yn ceisio cywiro ‘camargraff’ David Cameron fod ei wlad yn helpu ‘allforio terfysgaeth’ yn ystod ei ymweliad â Phrydain yr wythnos yma.
Dywedodd gweinidog gwybodaeth Pacistan mai gobaith ei lywodraeth yw y bydd cytundeb rhwng y ddwy wlad pan fydd Prydain yn ‘cael y darlun llawn’.
Er bod yr Arlywydd Asif Ali Zardari wedi cadarnhau y bydd yn dod i Brydain ddydd Mawrth, mae sylwadau’r Prif Weinidog yn dal i daflu cysgod uwchben yr ymweliad pum niwrnod.
Mae’r sylwadau wedi achosi tramgwydd mawr ym Mhacistan, yn arbennig gan iddyn nhw gael eu gwneud yn India, o gofio’r berthynas wael sydd rhwng y ddwy wlad sy’n gymdogion i’w gilydd..
Fe fu protestwyr yn llosgi llunddelw o David Cameron ar strydoedd Karachi, a chafodd cyfarfod rhwng swyddogion gwasanaeth cudd ac arbenigwyr diogelwch ym Mhrydain ei ganslo ddoe.
Cafodd ei sylwadau eu condemnio gan Brif Weinidog Pacistan, Yousaf Raza Gilani, hefyd yn y Punjab ddoe:
“Yn India, rydych chi’n siarad am derfysgaeth ond dydych chi’n dweud dim am Kashmir,” meddai. “Fe wnaethoch chi anghofio am y cam-drin sy’n digwydd yno. Fe ddylech chi fod wedi siarad am hynny hefyd, fel y bydden ni ym Mhacistan wedi bod yn fodlon.”
Mae’r Arlywydd, fodd bynnag, wedi gwrthod pwysau arno i dynnu’n ôl o’i ymweliad swyddogol.
“Fe fydd Arlywydd Pacistan yn cael deialog a thrafodaeth dda a bydd yn esbonio’r ffeithiau i’r llywodraeth newydd ym Mhrydain,” meddai Qamar Zaman Kaira, gweinidog gwybodaeth Pacistan, wrth gyfiawnhau’r ymweliad.
Llun: Arlywydd Pacistan, Yousaf Raza Gilani (o wefan wikipedia)