Mae’r elusen Oxfam yn rhybuddio bod Pacistan yn wynebu trychineb enfawr o safbwynt afiechydon wedi’r llifogydd sydd eisoes wedi lladd dros 1,100 o bobl.
Mae’r elusen wedi cychwyn ymgyrch i geisio cymorth brys i leddfu’r argyfwng yn y wlad.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r llifogydd yng ngogledd-orllewin Pacistan wedi effeithio ar tua miliwn o bobl, gyda 27,000 yn dal i fod wedi cael eu caethiwo gan y dŵr.
Meddai Jane Cocking, Cyfarwyddwr Dyngarol Oxfam: “Mae hwn yn llif ar raddfa nad ydyn ni wedi ei weld ers degawdau ym Mhacistan ac mae’n gofyn am ymdrech yr un mor eithriadol i estyn cymorth.
Tlawd
“Roedd y bobl sydd wedi cael eu taro gan y llifogydd eisoes yn druenus o dlawd, ac mae’r ychydig o eiddo a oedd ganddyn nhw wedi ei olchi i ffwrdd.
“Dim ond yn araf y mae graddau’r argyfwng yma’n dod i’r amlwg.
“Mae angen ar frys am gysgod dros dro, dŵr yfed glân a thoiledau er mwyn osgoi cyflafan o ran iechyd cyhoeddus. Mae ar bobl angen gofal meddygol a bwyd sylfaenol hefyd.
“Rydyn ni’n chwilio am raglen gymorth ar raddfa fawr a fydd yn gofyn am gefnogaeth gyhoeddus sylweddol.”
Llun: Milwyr o fyddin Pacistan yn cludo cwch ar eu ffordd i ardaloedd wedi gorlifo yn y wlad heddiw (AP Photo/Pervez Mashi)