Mae’r cwmni olew BP o dan bwysau i ail-enwi ei orsafoedd petrol yn America, oherwydd y drwgdeimlad tuag at y brand yn sgil yr olew’n gollwng yng Ngwlff Mecsico.

Mae’r dosbarthwyr sy’n rheoli’r mwyafrif o orsafoedd petrol BP yn y wlad yn awyddus i weld y cwmni’n mynd yn ôl at hen enw, Amoco, er mwyn ceisio lleihau’r difrod.

Roedd BP wedi cael gwared ar y brand Amoco ar ôl cyfuno â’r grŵp Americanaidd hwnnw yn 1998, ond cred y 475 o ddosbarthwyr y byddai ei adfer yn helpu dod â chwsmeriaid yn ôl.

Mae adroddiadau fod gwerthiant petrol BP wedi gostwng 40% yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf gan y colli olew.

Mae adroddiadau hefyd fod gorsafoedd petrol y cwmni yn y America’n dioddef achosion cynyddol o fandaliaeth a phrotestiadau.