Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i adroddiad am drywaniad a ddigwyddodd y tu allan i lyfrgell Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg gyda’r nos neithiwr.

Maen nhw’n awyddus i siarad gyda llanc croenwyn, a oedd â rhan yn y digwyddiad, sy’n cael ei ddisgrifio fel tua 14 oed a thua pum troedfedd chwe modfedd o daldra o gorffolaeth tenau a gwallt brown byr pigog. Roedd yn gwisgo crys-T gwyn a jîns glas.
Nid yw anafiadau’r dioddefwr yn rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Gofynnir i unrhyw dystion neu bobl eraill â gwybodaeth am y digwyddiad, gysylltu â’r heddlu ar 101 neu CrimeStoppers ar 0800 555 111.