Mae arolwg o farn teithwyr yn awgrymu mai maes awyr Cymru Caerdydd yw’r un ail orau ym Mhrydain.
Fe sgoriodd maes awyr Caerdydd 48 pwynt allan o 60 pan ofynnwyd i deithwyr roi marciau allan o ddeg am wahanol agweddau, fel cyfeillgarwch staff, effeithiolrwydd a’r profiad o siopa ynddyn nhw.
Yr unig faes awyr i wneud yn well yn yr arolwg o 2,372 o deithwyr oedd Birmingham, gyda 54 o bwyntiau.
Yn dynn ar sodlau Caerdydd roedd maes awyr Lerpwl gyda 47 pwynt, a Manceinion yn bedwerydd gyda 42. Ar waelod y rhestr roedd maes awyr Luton gyda 16 pwynt yn unig.
Dangosodd yr arolwg gan gwmni airporttransfers.co.uk fod yn well gan 63% o’r rhai a holwyd hedfan o feysydd awyr llai, y tu allan i Lundain, a dywedodd 12% mai’r profiad yn y maes awyr oedd un o’r pethau yr oedden nhw’n edrych ymlaen fwyaf ato mewn gwyliau.
Meddai Chris Brown, ar ran airporttransfers.co.uk:
“Ro’n i wedi synnu o weld pedwar prif maes awyr Llundain ymysg y pump ar waelod y tabl, ond dw i’n meddwl fod llawer o bobl nad ydyn nhw’n hoffi meysydd awyr mawr, prysur.
“Er bod meysydd awyr Llundain yn sgorio’n gymharol uchel am y profiad o siopa, mae’n ymddangos fod llawer o deithwyr yn teimlo’u bod nhw’n methu o safbwynt pethau pwysicach fel cyfeillgarwch staff ac effeithlonrwydd.”