Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf, mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng i 12% – sef hanner yr hyn a enillodd y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae’r arolwg, sy’n cael ei gyhoeddi yn y Sunday Times heddiw, yn awgrymu cwymp mawr hefyd ym mhoblogrwydd eu harweinydd Nick Clegg ers iddo ddod yn Ddirprwy Brif Weinidog.
Roedd graddfa ei boblogrwydd personol i lawr i wyth bwynt – o gymharu â 72 pwynt yn union ar ôl y ddadl gyntaf rhwng arweinwyr y pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Ar y llaw arall, mae’n ymddangos nad yw’r Torïaid wedi dioddef yn yr un ffordd.
Mae lefel eu cefnogaeth nhw wedi codi i 42% – o gymharu â 37% yn yr etholiad, ac mae Llafur hefyd wedi codi wyth pwynt canran i fyny i 38%.
Hwn oedd yr arolwg barn gwaethaf i’r Democratiaid Rhyddfrydol ers mis Hydref 2007 pryd y cafodd Syr Menzies Campbell ei orfodi i roi’r gorau i fod yn arweinydd.
Daw’r arolwg ar ôl i Nick Clegg gyfaddef mewn rhaglen ddogfen deledu iddo newid ei feddwl ynghylch yr angen am dorri ar wario cyn yr etholiad heb ddweud hyn yn gyhoeddus.
Mae arwyddion o anfodlonrwydd o fewn ei blaid yn ogystal ynghylch safbwynt y llywodraeth glymblaid ar faterion fel mewnfudo, ysgolion a ffioedd myfyrwyr.
Cafodd 1,885 o bleidleiswyr eu holi gan YouGov ddydd Iau a dydd Gwener ar gyfer yr arolwg.