Mae ymdrech fawr ar waith yng ngogledd-orllewin Pacistan i achub dros 27,000 o bobl sy’n dal i fod wedi eu caethiwo gan lifogydd anferthol.
Mae’r nifer sydd wedi cael eu lladd wedi codi i dros 1,100 bellach ac mae miloedd o gartrefi wedi cael eu difetha.
Er bod y glawogydd monsŵn wedi gostegu rhywfaint, a’r llifogydd wedi dechrau cilio, mae’r graddau’r trychineb yn dechrau dod i’r amlwg.
“Mae monitro o’r awyr yn dangos bod pentrefi cyfain wedi cael eu golchi i ffwrdd, anifeiliaid wedi boddi a storfeydd grawn wedi diflannu,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod sy’n gyfrifol am wasanaethau argyfwng y dalaith. “Mae’r dinistr yn anferthol ac yn drychinebus.”
Roedd 30,000 o filwyr wedi llwyddo i achub 19,000 o bobl neithiwr, a heddiw mae 43 o hofrenyddion milwrol a dros 100 o gychod yn ceisio achub tua 27,300 sy’n dal wedi eu caethiwo.
Digartref
Yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf yw Swat a Shangla, lle mae dros 400 o bobl wedi marw. Daw’r trychineb wrth i drigolion Swat geisio dygymod ag effeithiau brwydr fawr rhwng y fyddin a’r Taliban yn y gwanwyn a yrrodd tua dwy filiwn o bobl o’u cartrefi – gyda miliwn ohonyn nhw’n dal yn ddigartref.
Un o’r pryderon mwyaf bellach yw afiechydon sy’n cael eu cludo mewn dŵr, fel diarrhoea, asthma, alergeddau croen a cholera.
Yn wyneb tlodi’r ardal bydd angen llawer o gymorth rhyngwladol, ac mae llywodraeth America eisoes wedi anfon 380,000 o becynnau bwyd, a llysgenhadaeth America yn Islamabad wedi addo 12 o bontydd dur i gymryd lle’r rhai sydd wedi eu hysgubo gan y llifogydd.
Llun: Rhai o drigolion Peshawar yng ngogledd-orllewin Pacistan yn ffoi rhag y llifogydd ddoe (AP Photo/Xinhua, Saeed Ahmad)