Bydd cyfraith sy’n cychwyn cael ei rhoi ar waith heddiw yn gam pwysig ymlaen wrth amddiffyn plant, yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.

Mae ‘Cyfraith Sarah’, fel y caiff ei galw, yn galluogi rhiein i ddarganfod os oes gan rywun hanes o droseddu’n ymwneud â phlant.

Mae’r gyfraith yn cael ei chyflwyno’n raddol o heddiw ymlaen – er na ddaw i rym yng Nghymru tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Mae’n seiliedig ar gyfraith debyg yn America, ac yn ffrwyth blynyddoedd o ymgyrchu gan fam Sarah Payne, yr eneth fach wyth oed a gafodd ei llofruddio gan y paedoffil Roy Whiting ddeng mlynedd yn ôl.

Dywed yr Ysgrifennydd Cartref y bydd Cyfraith Sarah yn diogelu mwy o blant rhag niwed.

“Mae gallu gwirio hanes pobl yn tawelu meddyliau rhieni a’r gymuned, ac yn bwysicach na hynny, yn cadw plant yn saffach,” meddai Theresa May. “Fe fydd Cyfraith Sarah hefyd yn helpu’r heddlu wrth reoli troseddwyr rhyw – rhai sy’n byw yn y gymuned – yn fwy effeithiol.”

Peilot

Mae peilot o’r rhaglen eisoes wedi bod ar waith mewn pedair ardal awdurdod heddlu yn Lloegr ers bron i ddwy flynedd, ac yn ôl y Swyddfa Gartref, mae hyn eisoes wedi amddiffyn mwy na 60 o blant rhag cael eu cam-drin.

Mae Cyfraith Sarah yn cael ei hehangu i wyth o ardaloedd eraill yn Lloegr heddiw, gydag ehangu pellach yn digwydd o hyn tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf pryd y bydd mewn grym ledled Cymru a Lloegr.

Llun: Sarah Payne, yr eneth wyth oed a gafodd ei llofruddio gan Roy Whiting ddeng mlynedd yn ôl