Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal yn yr Almaen heddiw i 21 o bobl a gafodd eu gwasgu i farwolaeth yn yr ŵyl gerddorol Love Parade wythnos yn ôl.

Ymysg y galarwyr yn y gwasanaeth yn eglwys Salvator yn ninas Duisberg yr oedd y Canghellor Angela Merkel a’r Arlywydd Christian Wulff.

Cafodd y gwasanaeth ei ddarlledu ar sgriniau mewn stadiwm pêl-droed ac eglwysi eraill yn y ddinas, ac mae baneri wedi bod yn cael eu chwifio ar hanner y mast ledled y wlad.

Roedd y 21 a fu farw’n amrywio mewn oedran o 18 i 38 ac roedden nhw’n cynnwys rhai o Sbaen, Awstralia, yr Eidal, Bosnia, China a’r Iseldiroedd.

Mae trefnwyr yr ŵyl a chyngor y ddinas wedi cael eu beirniadu’n hallt am beidio â chynllunio’n ddigon trylwyr ac am geisio gwasgu gormod o bobl i le rhy fychan.

Llun: Croes ar stadiwm Duisberg i gofio’r 21 a gafodd eu gwasgu i farwolaeth yng ngŵyl y Love Parade (AP Photo/Michael Probst)