Mae sylwadau’r Prif Weinidog David Cameron yn gynharach yn yr wythnos fod elfennau o fewn Pacistan yn hyrwyddo terfysgaeth yn dal i achosi ffrae ddiplomyddol.

Yn sgil sylwadau dadleuol David Cameron yn India’n gynharach yn yr wythnos, roedd asiantaeth gwasanaethau cudd Pacistan wedi tynnu’n ôl o drafodaethau gydag arbenigwyr diogelwch ym Mhrydain.

“Mae’r ymweliad wedi cael ei ganslo mewn adwaith i sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Prydain yn erbyn Pacistan,” meddai llefarydd ar ran gwasanaethau cudd Pacistan. “Gallai datganiadau mor anghyfrifol effeithio ar ein cydweithrediad â Phrydain.”

Roedd hyn wedi arwain at ofnau y byddai Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, hefyd yn tynnu’n ôl o ymweliad â Phrydain yr wythnos yma.

Ond er gwaethaf galwadau o fewn Pacistan ar iddo beidio â mynd, cadarnhaodd Gweinidog Gwybodaeth y wlad y bydd yr ymweliad yn dal i fynd yn ei flaen yn unol â’r cynlluniau.

Roedd y cyn-ysgrifennydd tramor David Miliband wedi beirniadu’r Prif Weinidog am ei sylwadau:

“Mae ar Brydain angen perthynas dda gyda Phacistan, ac mae’n amlwg yn newyddion drwg fod gwasanaeth cudd Pacistan wedi canslo’r gynhadledd wrth derfysgaeth,” meddai.