Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cefnogi ymdrechion S4C i roi eu tŷ mewn trefn ar ôl ymadawiad sydyn y Prif Weithredwr, Iona Jones.

Ond fe ddywedodd Cheryl Gillan hefyd bod angen gweithredu ac ail-drefnu er mwyn i’r sianel “ateb ei diben” unwaith eto.

Wrth ddefnyddio’r geiriau “fit for purpose” roedd hi, meddai, yn adleisio Cadeirydd Awdurdod y Sianel John Walter Jones.

Fe ddywedodd ei bod yn cefnogi’r camre yr oedd yr Awdurdod wedi eu cymryd – i newid rheolaeth y Sianel ac i’w tynnu nhw a’r staff yn nes at ei gilydd.

Cyfarfod

Roedd Cheryl Gillan yn siarad ar ôl cyfarfod brys gyda rhai o aelodau’r Awdurdod ar faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy.

“Dw i’n siŵr y byddwn ni’n gweld cynlluniau da ac ad-drefnu da ac y bydd S4C yn ateb ei diben unwaith eto.

“Dw i ddim yn gwybod beth fydd yn y dyfodol ond mae hynny, i raddau helaeth yn eu dwylo nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw ddatrys eu problemau eu hunain.”

Mae Cheryl Gillan yn dweud ei bod wedi bod yn cysylltu’n gyson gyda’r Adran Dreftadaeth yn Llundain, sy’n gyfrifol am roi arian i S4C, ac fe fynnodd y byddai’n dadlau tros achos Cymru.