Mae dau ddyn o Gaernarfon wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â ffrwydron.

Mewn cyrch gan Heddlu’r Gogledd a Heddlu’r Metropolitan am 6 o’r gloch fore ddoe cafodd dyn 21 oed ei arestio mewn ty yn Ael y Garth yn y dref, a chafodd dyn 52 oed ei arestio mewn ty yn Stryd Hampton gerllaw.

Nid yw’r heddlu wedi enwi’r naill ddyn na’r llall, ond credir mai tad a mab ydynt. 

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn cael eu dal o dan adran 4 o’r Ddeddf Ffrwydron. 

Mae arbenigwyr fforensig wedi bod wrthi’n archwilio’r ddau dy. Nid yw’r arestiadau’n gysylltiedig â therfysgaeth.

Meddai llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan: “Mae’r ddau ddyn mewn gorsafoedd heddlu yng nghanol Llundain lle byddan nhw’n cael eu holi gan yr heddlu.”