Mae tua 30 o bobl wedi cael eu lladd mewn tanau coedwig yn Rwsia dros y tridiau diwethaf

Gyda phentrefi wedi cael eu llosgi i’r llawr a channoedd o filoedd o erwau o goedwigoedd wedi eu dinistrio, mae tanau’n dal i effeithio ar o leiaf 14 o ranbarthau’r wlad.

Mae Moscow ac ardaloedd eraill yn profi eu haf poethaf ers i gofnodion gychwyn 130 o flynyddoedd yn ôl.

Ledled y wlad, mae tân wedi dinistrio 1,200 o gartrefi – mewn pentrefi gwledig yn bennaf – ac mae miloedd o bobl wedi gorfod ffoi rhag fflamau a mwg.

Mae dros 10,000 o ymladdwyr tân a bron i chwarter miliwn o aelodau o’r cyhoedd wedi bod wrthi’n ymladd y tanau, a’r gobaith yw fod y tanau gwaethaf o dan reolaeth erbyn heddiw.

Ddoe, fe fu’r Prif Weinidog Vladimir Putin yn ymweld â phentref Verkhnyaya Vereya, lle mae pob un o’r 341 o gartrefi wedi cael eu llosgi i’r llawr a phump o drigolion wedi cael eu lladd.

Roedd y pentref, sydd bellach wedi ei orchuddio â lludw llwyd, yn un o dri a gafodd eu dinistrio ger Nizhny Novgorod, y ddinas bumed fwyaf yn Rwsia tua 300 milltir i’r dwyrain o Moscow.

Llun: Y Prif Weinidog Vladimir Putin yn ymweld â phentref Verkhnyaya Vereya ddoe (AP Photo)