Owain Schiavone sy’n blogio’n fyw o faes yr Eisteddfod ar y dydd Sadwrn cyntaf.
4:04 – Tydi’r maes ddim wedi bod yn orlawn o bell ffordd heddiw, bydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’r ffigyrau ymwelwyr yn cymharu gyda blynyddoedd diweddar. Mae’n bosib bod y polisi tocynnau am ddim fory wedi effeithio rhywfaint ar heddiw? Beth bynnag, mae wedi bod yn ddiwrnod sych a ddigon braf ac mae pawb i’w gweld mewn hwyliau da…yn cynnwys Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, sydd newydd alw mewn i uned Golwg/Golwg360.com yn arddangos ei i-phone newydd! Mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno ‘app’ newydd ‘isteddfod’ ar gyfer yr wyl eleni wrth gwrs, gyda pob math o wybodaeth am y maes a holl weithgareddau’r Eisteddfod.
12:15 – Bydd Golwg360.com yn rhedeg cyfres o gystadlaethau ar y maes yn ystod yr wythnos gyda gwobrau hyfryd i’w hennill:
– Snap! Cystadleuaeth i ffeindio’r llun gorau o’r maes. Bydd y llun mwya’ trawiadol/gwahanol/rhyfeddol yn ennill tocyn anhreg gwerth £50 gan gwmni adra a phecyn danteithion Golwg360.com.
– Dweud eich dweud. Cyfle i chi leisio eich barn. Bydd adolygiad gorau’r wythnos, boed yn adolygiad o CD, llyfr, cyngerdd, drama, maes yr Eisteddfod…neu beth bynnag yn ennill pecyn o lyfrau gan Y Lolfa a phecyn danteithion Golwg360.com.
– Cwestiwn Crafu Pen. Dewch draw i uned Golwg/Golwg360.com i ateb cwestiwn Eisteddfodol er mwyn cael y cyfle i ennill Pár o docynnau i Wyl y Faenol eleni.
– Sialens Sgliliau Samba. Ffansio eich hun fel tipyn o bél droediwr? Dewch draw i ddangos eich doniau ar ffilm er mwyn cael cyfle i ennill tocynnau i gém ryngwladol Cymru v Bwlgaria.
Bydd holl luniau, adroddiadau a ffilmiau Sgiliau Samba i’w gweld yma ar y blog Eisteddfodol yn ystod yr wythnos!
10:30 – Wel, mae’r wythnos fawr wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae maes yr Eisteddfod yn fwrlwm o weithgarwch yn barod. Mae uned Golwg a Golwg360.com ar y maes wedi ei osod, felly o’r diwedd mae gen i amser i ysgrifennu blog bach cyflym!
Mae’r maes yn un diddorol i ddweud y lleiaf! Rhaid cyfaddef bod tipyn o lwch yma wrth i’r stondinwyr osod eu stindinau ddoe, ond bai’r cerbydau yn bennaf oedd hynny dwi’n tybio ac mae hi’n ddigon braf yma heddiw. Y newyddion da ydy fod y maes yn un sy’n dygymod yn dda gyda tywydd gwlyb, felly peidiwch poeni os ydy’r rhagolygon ddim cystal.
Does yna ddim gymaint a hynny o arwyddion ‘Eisteddfod’ yn yr ardal, felly fy nghyngor i ydy dilyn arwyddion i Glyn Ebwy, ac yna chwilio am arwyddion i ‘The Works’ os na fyddwch chi’n gallu gweld arwyddion ’Steddfod. I’r rhai sy’n carafanion, prin ydy’r arwyddion hefyd, felly dilynwych arwyddion i Dredegar, ac yna edrych am ‘Barc Bryn Bach’.
Mae ’na nifer o bobl amlwg i’w gweld ar y maes yn barod – mae Dafydd Iwan newydd alw mewn i uned Golwg/Golwg360.com ar ei ffordd i agor Maes D. Dwi hefyd newydd gael cip o Cheryl Gillan o bell hefyd.
Bydda i’n ceisio blogio bob cyfle posib felly cadw’ch olwg ar y blog am y newyddion diweddaraf. Bydda i hefyd yn ceisio dod a uchafbwyntiau digwyddiadau’r maes i chi yn y bore bob dydd i’r rhai ohono chi sy’n bwriadu ymweld á’r maes.