Mae cyrch gan fyddin Prydain yn erbyn y Taliban yn Afghanistan yn “symud ymlaen yn dda iawn” yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Heddiw yw ail ddiwrnod cyrch Tor Shezada, gyda channoedd o filwyr Prydain wrthi’n ceisio gwthio’r Taliban allan o un o’u cadarnleoedd yn ne Afghanistan.
Yn ôl penaethiaid milwrol, mae lluoedd Prydain, ar y cyd â byddin Afghanistan, wedi sefydlu dwy ganolfan ger Sayedebad yng nghanolbarth talaith Helmand.
“Mae dyfeisiadau ffrwydrol IED wedi cael eu meddiannu, ac mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda phenaethiaid pentrefi er mwyn ceisio cynnig tawelwch meddwl iddyn nhw,” meddai’r llefarydd ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dechreudd cyrch Tor Shezada – sy’n golygu ‘tywysog du’ – wrth i filwyr gael eu gollwng y tu ôl i ffiniau’r gelyn o hofrenyddion Chinook cyn iddi oleuo fore ddoe.
Bwriad y cyrch yw gwthio ymladdwyr y Taliban ymhellach oddi wrth y canolfannau poblogaeth a gafodd eu clirio fel rhan o gyrch Mostarak yn gynharach eleni.
Yn ôl yr Uwch-gapten Simon Ridgway, o Fataliwn Cyntaf Catrawd Dug Caerhirfryn, mae milwyr Prydain wedi cipio eu targedau cyntaf heb lawer o ymladd.
“O’r canolfannau yma, bydd y milwyr yn ceisio gwell dealltwriaeth o’r ardal, o’r bobl leol ac o weithgaredd gwrthryfelwyr, fel y gallwn ddechrau erlid y gwrthryfelwyr o ardal Sayedebad,” meddai.
Llun: Milwyr o Brydain yn cymryd rhan yng Nghyrch Tor Shezada (Corporal Gary Kendall RLC/Hawlfraint y Goron a’r Weinyddiaeth Amddiffyn/Gwifren PA)