Mae’r llifogydd yng ngogledd-orllewin Pacistan bellach wedi lladd dros 800 ac wedi effeithio ar dros filiwn o bobl.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig dyma’r trychineb gwaethaf o’r fath yn y rhanbarth ers 1929.
Mae achubwyr wrthi ar hyn o bryd yn defnyddio hofrenyddion y fyddin, tryciau trwm a chychod i gyrraedd ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan lifogydd.
Er bod y llifogydd yn cilio, mae achubwyr yn wynebu problemau oherwydd difrod i ffyrdd a phontydd.
Llun: Un o hofrenyddion byddin y wlad yn achub pentrefwyr yn Nowshera, Pacistan,
ddoe (AP Photo/Mohammad Sajjad)