Mae’r llofrudd Ian Huntley yn dwyn achos yn erbyn y gwasanaeth carchardai ar ôl i gyd-garcharor ymosod arno â rasel ym mis Mawrth.

Mae’r dyn a lofruddiodd ddwy eneth fach 10 oed yn Soham yn honni bod y gwasanaeth carchardai wedi methu yn eu dyletswydd o ofal tuag ato.

Yn ôl rhai adroddiadau, petai’n llwyddo, gallai Huntley ennill tua £100,000 mewn iawndal – a fyddai bron i ddengwaith cymaint o iawndal a gafodd rhieni Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy eneth a lofruddiodd yn 2002.

Mae bwriad y llofrudd wedi cythruddo swyddogion carchar.

“Mae diwylliant o iawndal yn cymryd drosodd yn ein carchardai, gyda charcharorion yn hawlio miliynau bob blwyddyn,” meddai Colin Moses, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas y Swyddogion Carchar.
 
“Rydyn ni fel swyddogion yn dioddef mwy o ymosodiadau nag erioed o’r blaen, ac yn gweithio mewn lle treisgar iawn.

“Fy aelodau i a achubodd Mr Huntley wedi’r ymosodiad yma, fy aelodau i fydd yn dal i’w achub os bydd ymosodiad arall arno. Beth mae’n mynd i wneud gydag unrhyw arian y bydd yn ei gael p’run bynnag?”

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod Ian Huntley’n dwyn achos yn eu herbyn ac y byddan nhw’n ymladd yr achos.