Mae teulu a ffrindiau’n galaru ar ôl i ferch 9 oed gael ei lladd mewn damwain rafftio yn Nhwrci.

Fe gafodd Cerys Potter o Lancarfan ym Mro Morgannwg ei lladd pan oedd ar wyliau gyda’i mam a’i brawd yn ne’r wlad.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth iddi rafftio yn ardal llyn o’r enw Kosygeiz ac, yn ôl rhai adroddiadau, roedd bachgen wedi ei anafu hefyd.

Yn Llancarfan, fe ddywedodd prifathrawes yr ysgol leol bod gwasanaethau cwnsela’n cael eu trefnu ar gyfer y plant.

Fe fydd y ddamwain yn codi cwestiynau eto am ddiogelwch chwareon o’r fath mewn gwledydd fel Twrci, lle mae’r trefniadau diogelwch yn amrywio o le i le.

Llun: Rhan o faner Twrci