Fe fydd cylchgrawn Lol yn cyhoeddi ‘atodiad arbennig’ am helyntion S4C, cyn y newyddion annisgwyl bod y Prif Weithredwr yn gadael.
Dyw’r cylchgrawn ddim yn cael ei gyhoeddi tan ddydd Llun ond, yn ôl y tudalennau y mae Golwg360 wedi eu gweld , mae’n honni bod strategaeth fwriadol wedi bod i danseilio cwmnïau teledu annibynnol bach.
Mae’r atodiad yn hawlio bod polisïau’r sianel wedi achosi “cyflafan greadigol a masnachol i’r diwydiant teledu yng Nghymru” ac mae’n crynhoi honiadau sydd wedi eu gwneud tros y blynyddoedd diwetha’.
Galw am newid
Mae’r tudalennau’n amlwg wedi eu paratoi cyn digwyddiadau’r dyddiau diwetha’ ond yn awr, mae awdur yr atodiad wedi galw am nifer o newidiadau:
• “Mae pawb angen gwybod be’n union oedd y rheswm y tu ôl i ymadawiad Iona Jones,” meddai. “Y realiti yw bod rhaid iddyn nhw roi esboniad pam mae’n digwydd rŵan.”
• “Mae angen i John Walter Jones ystyried ai fo ydi’r person i arwain – ond mae angen penodi Prif Weithredwr newydd cyn iddo symud.
• “Mi fydd angen adroddiad ar sut oedd S4C yn cael ei rhedeg yn ystod cyfnod Iona Jones.
• “Mae angen cynllun a strategaeth newydd am y cynnwys yn ogystal â phobl newydd i ddelio efo partneriaid, y Cynulliad a’r Llywodraeth . Roedden nhw wedi dirywio.”
Mae’r atodiad yn honni bod strategaeth o ffafrio pum cwmni teledu annibynnol mawr wedi arwain at gau cwmnïau llai, gyda chynhyrchwyr bach a pherfformwyr yn cael eu gwthio i weithio gyda’r pump.
Yn y gorffennol, mae S4C wedi gwadu honiadau tebyg yn llwyr, gan ddweud bod rhaglenni’n cael eu gosod trwy broses dendro deg ac agored.
Cefnogi’r ‘diswyddo’
Neithiwr, fe ddywedodd awdur yr atodiad, sy’n gweithio o fewn y diwydiant darlledu ond sy’n mynnu aros yn ddienw, fod Awdurdod S4C wedi gweithredu’n ddoeth trwy ddiswyddo’r Prif Weithredwr Iona Jones.
Er nad yw’r sianel wedi defnyddio’r gair “diswyddo”, mae Golwg360 yn deall hefyd mai dyna a ddigwyddodd.
Mae cynrychiolwyr S4C ei hun, gan gynnwys y Cadeirydd John Walter Jones, yn cadw at eu bwriad o beidio ag esbonio dim am yr hyn ddigwyddodd pan adawodd Iona Jones nos Fercher.
Ond mae awdur atodiad Lol wedi croesawu penodiad Arwel Ellis Owen yn Brif Weithredwr tros dro gan ddweud fod “ganddo’r profiad sydd ei angen”.
Yn ogystal â bod yn uchel swyddog gyda’r BBC yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae Arwel Ellis Owen wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd teledu annibynnol hefyd, trwy ei gwmni Cambrensis.
Fe ddywedodd ddoe y byddai’n defnyddio’r Eisteddfod i drafod dyfodol y sianel gyda gwylwyr a chynhyrchwyr.
Alun Ffred yn croesawu’r penodiad
Neithiwr, fe gafodd y penodiad ei groesawu hefyd gan y Gweinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, Alun Ffred Jones.
“Rwy’n croesawu apwyntiad Arwel Ellis Owen fel Prif Weithredwr dros dro S4C. Rwy’n gobeithio y bydd y gweithredu chwim hwn yn dod â sefydlogrwydd a rhoi sicrwydd i staff y sefydliad, y sector teledu ehangach a chynulleidfaoedd S4C,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag Arwel a’r awdurdod yn y misoedd heriol sydd i ddod.”
Lol – y cefndir
Dyma’r tro cynta’ i Lol gael ei gyhoeddi ers 2003 – ar ôl cael ei gyhoeddi fwy neu lai’n ddi-dor o 1965 gan Wasg y Lolfa.
Fe gafwyd cylchgrawn dan enw arall, Dim Lol, yn ystod y blynyddoedd diwetha’ ond dyw’r rheiny ddim wedi bod mor llwyddiannus â’r gwreiddiol.
Mae’r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi y tro yma gan gwmni newydd, Cwmni Drwg. Yn ôl Tŷ’r Cwmnïau, yr unig gyfarwyddwr yw Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa.
Llun: Rhan o glawr y Lol newydd