Mae label Sbrigyn Ymborth wedi rhyddhau albwm gyntaf y cerddor Gildas, Nos Da, yn yr Eisteddfod.

Mae’r gŵr y tu ôl i Gildas, Arwel Lloyd eisoes yn adnabyddus fel gitarydd ym mand Al Lewis, ond yn ddiweddar mae o wedi bod yn torri ei gŵys ei hun.

Mae’r label yn disgrifio’r albwm fel rhywbeth sy’n debyg o ailddiffinio’r term ‘gwrando hamddenol’.

“Mae gwraidd y sain hamddenol yn acwstig. Ond, dw i wedi ceisio ychwanegu cyffyrddiadau electronig er mwyn cael sain fwy modern hefyd,” meddai Arwel Lloyd wrth Golwg360.

Fe ddywedodd y cerddor ei bod hi wedi cymryd blwyddyn i sgwennu’r 11 can ar y gryno ddisg a thri neu bedwar penwythnos i recordio’r caneuon.

Fe ddechreuodd diddordeb y cerddor yn y gitâr pan oedd o’n 10 oed ar ôl derbyn yr offeryn ar ei ben-blwydd.

Erbyn hyn mae’r cerddor sydd nawr yn 26 wedi mynd drwy “tua 10 gitâr i gyd,” meddai.


‘Profi’

“Mae Al Lewis yn dda iawn o ran gwthio ei hun gyda cherddoriaeth. Doeddwn i ddim i ddechrau,” meddai am geisio dod o hyd i gigs ar ei ben ei hun.

“Mae o’n gigio lot yn Llundain ar ei liwt ei hun. Ac fe wnes i feddwl tybed a fyddwn i’n gallu gwneud hynny? Mynd ar fy liwt fy hun a dechre’ rhywbeth.

“Mae’r ffaith fod yr albwm wedi’i recordio yn fy ngwneud yn hapus – dw i wedi profi rhywbeth i fi fy hun,” meddai cyn dweud ei fod yn “teimlo’n gyffrous am lansiad y gryno ddisg yn yr eisteddfod”.

Fe fydd Gildas – Nos Da yn y siopau a’r Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, Awst 3.

Fe fydd hi hefyd yn bosibl prynu’r albwm ar-lein.

Traciau’r albwm

1. Dal Fi Fyny
2. Gorwedd Yn Y Blodau
3. Mae ‘Na Bobl
4. Ar Ôl Tri
5. Hyfryd Lun
6. Ateb
7. Bruno a’r Blodyn
8. Gardd Y Mynach
9. ‘Sgwyddau Gwan
10. Maes Y Bryn
11. Nos Da

Gigs nesaf Gildas

Sadwrn 7 Awst
Clwb Rygbi Glyn Ebwy
Bob Delyn, Twmffat, Candelas, Gildas,DJ Swci Boscawen
Llwyfan Bwrdd yr iaith, Maes yr Eisteddfod 3yp.
Gig lansio Gildas – Nos Da yn Gwdihw, Caerdydd ar Awst 26.