Mae rheolwr gwrthwynebwyr Bangor yn y Cynghrair Europa heno wedi dweud na fydd wynebu enillwyr Cwpan Cymru yn brofiad hawdd i’w dîm.

Fe fydd Bangor yn wynebu Maritimo, a orffennodd yn y pumed safle ym mhrif gynghrair Portiwgal y tymor diwethaf.

Mae’r ddau dîm yn wynebu ei gilydd yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa yn Madeira am 8.45pm heno.

“Yn amlwg r’y ni’n ffefrynnau, ond mae’n rhaid i ni brofi hynny ar y cae,” meddai rheolwr Maritimo, Mitchell Van der Gaag.

“Does dim y fath beth a gemau hawdd.

“Mae’n rhaid i ni gofio bod Bangor wedi curo Honka Espoo, a oedd yn cael eu hystyried yn ffefrynnau yn y rownd flaenorol.

“Fe fydd yn bwysig sgorio’n gynnar, a r’y ni’n anelu i ennill y gêm heb adael iddyn nhw sgorio.”

Newyddion tîm Bangor

Mae yna amheuon ynglŷn â ffitrwydd Craig Garside ar ôl iddo fethu’r fuddugoliaeth yn erbyn Honka gydag anaf i’w bigwrn a llinyn y gar.

Ni fydd prif sgoriwr y clwb, Jamie Reed ar gael oherwydd ei fod o dal yn Awstralia yn chwarae ar fenthyg i Dandenong Thunder tan fis nesaf.