Mae awdurdodau yn Ffrainc wedi dweud fod cwpwl yn eu 40au wedi cael eu harestio ar ôl i gyrff wyth o fabanod gael eu darganfod mewn gardd.

Cafodd y gweddillion eu darganfod gan gŵn heddlu ar ôl iddynt chwilio dau dŷ ym mhentref Villers-au-Tertre, ger dinas ogleddol Lille (dde).

Credir fod perchnogion newydd un o’r tai wedi darganfod yr esgyrn ddydd Sadwrn diwethaf wrth weithio yn yr ardd.

Mae’n debyg mai rhieni y wraig gafodd ei harestio oedd yn arfer berchen y tŷ. Mae’r gweddillion cynharaf yn dyddio o 1988.

Yn ôl asiantaeth newyddion AFP Ffrainc mae trigolion y pentref wedi “eu synnu” gan y darganfyddiad, a’u bod nhw’n disgrifio’r cwpwl fel pobol normal.