Mae cael cyfarwyddo drama enwog House of America yn Gymraeg yn “wych”, yn ôl Tim Baker.

Mae’r cyfarwyddwr dramâu yn paratoi ar gyfer gynhyrchiad newydd y Theatr Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesa’.

Gwlad yr Addewid yw cyfieithiad yr actores a sgrifennwr Sharon Morgan, o ddrama fawr Ed Thomas.

Drama dywyll, onest yw hi wedi’i lleoli mewn tref ddiwydiannol dlawd yn y Cymoedd.

Mae Tim Baker yn cofio gweld cynhyrchiad gwreiddiol Ed Thomas yn y 1980au ym Mhort Talbot, rai blynyddoedd wedi Streic y Glowyr yn 1985.

“Ddim yn aml dw i’n cyfarwyddo sioe dw i wedi’i gweld o’r blaen. Mae hyn yn wych a bod yn onest. Mae hi’n ddifyr pa mor gryf yw’r ddrama o hyd,” meddai Tim Baker.

“Dw i wedi edmygu’r ddrama gymaint. Dw i’n darganfod rhywbeth newydd bob tro dw i’n mynd ato fo,” ychwanegodd y cyfarwyddwr.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr Eisteddfod