Canolfan Mileniwm Cymru yw un o’r neuaddau cyngerdd gorau yn y byd, yn ôl arloeswr ym myd y theatr, yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber.
“Mae’n adeilad ardderchog ac yn adnodd ardderchog,” meddai. “Does dim theatr yn y West End sy’n gallu brolio beth sydd gennych chi fan hyn.
“Mae’n brofiad gwych gweithio yma achos mae pawb fel pe bai’n gwybod beth i wneud a sut i sicrhau bod popeth yn gweithio. Mae’n ddigon posib mai hwn yw un o’r theatrau gorau yn y byd.”
Gwnaeth y sylwadau wrth ymweld â’r adeilad er mwyn ddatgan bod Sophie Evans, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth deledu Over The Rainbow, yn mynd i gael y cyfle i chwarae Dorothy yn y West End wedi’r cyfan.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr Eisteddfod