Ni fydd saith meddyg wnaeth drin Michael Jackson cyn iddo farw yn wynebu cyhuddiadau troseddol, cyhoeddwyd heddiw.

Roedd heddlu dinas Los Angeles wedi gofyn i ymchwilwyr cyhoeddus i archwilio pa gyffuriau yr oedd y canwr 50 oed wedi’i dderbyn gan y saith.

Ond mae enw un wedi cael ei gyfeirio at fwrdd meddygol talaith California am roi cyffuriau i’r canwr oedd yn defnyddio enw ffug.

Dyw meddyg personol Michael Jackson, Conrad Murphy, ddim yn un o’r saith.

Mae o wedi pledio’n ddieuog i ddynladdiad anwirfoddol. Mae’r awdurdodau yn honni ei fod o wedi rhoi cymysgedd o gyffuriau i Michael Jackson, gan gynnwys anasthetig cryf, wnaeth arwain at ei farwolaeth.