Bydd maes y Brifwyl ym Mlaenau Gwent eleni yn “sioc i’r selogion”, yn ôl y trefnydd Hywel Wyn Edwards.
“Dyw e ddim yn gae gwyrdd fel y Bala er mae yna batsys bach o wyrdd fan hyn a fan draw ond mae’n hollol wahanol,” meddai pan aeth Golwg am sbec olaf ar y maes cyn i’r torfeydd gyrraedd Glyn Ebwy.
“Mae’n faes hir iawn iawn o un pen i’r llall. Mae’n rhywbeth fel 750 metr o un pen i’r llall, sy’n hanner milltir. Mae yn hir!
“Dw i’n edrych ymlaen nawr at ddydd Gwener pan fydd yr unedwyr wedi dod ac wedi gosod eu harwyddion a bydd ychydig bach mwy o liw na gwyn y pafiliynau a llwyd y llawr. Hwnna yw’r unig beth sydd ar goll ar hyn o bryd.
“Mi fydd hi’n wahanol achos mae lot o bethau gwahanol yma, fel y Lle Celf. Hwnna yw, mae’n debyg, y pièce de la résistance ,” meddai Hywel Wyn Edwards am yr arddangosfa fydd o dan ddaear y tu mewn i’r hen waith dur. “Wnawn ni fyth mohono fe eto.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr Eisteddfod