Mae angen ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Blaenau Gwent, meddai un o Lywyddion yr Eisteddfod eleni.
Ganwyd Robat Powell yng Nglyn Ebwy ac fe enillodd Cadair yr Eisteddfod yn y Rhyl yn 1985 – y dysgwr Cymraeg cyntaf i gyflawni’r gamp yn y Brifwyl.
Dywedodd y Prifardd, sy’n un o feirniaid y Gadair a chystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, bod angen i’r Eisteddfod Genedlaethol adael ei hol ar yr ardal.
“Mae cynnydd sylweddol yn y nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg ond yr un gwendid amlwg yw dysgu’r iaith yn y sector cynradd. Mae prinder ysgolion cynradd Gymraeg.”
Mae dros 300 o ddisgyblion yn yr unig ysgol gynradd Gymraeg ym Mrynmawr. Ond yn ôl Robat Powell, mae’r ysgol yn cau eleni ar ôl i ysgol newydd sbon gael ei chodi rhwng Abertyleri a Nant y Glo.
“Ond mae hynny yn symud addysg gynradd Gymraeg i bob pwrpas i gornel anghysbell o Went.” meddai gan ychwanegu na fydd yr ysgol sydd wedi’i chodi yn amgylcheddol wych, â lle i ragor o blant.
“Bydden i’n hoffi gweld datblygiad ym myd addysg gynradd Gymraeg o ganlyniad i ymweliad yr Eisteddfod i Flaenau Gwent eleni.”
Darllenwch weddill y cyfweliad arbennig yng Nghylchgrawn Golwg y Steddfod