Fydd yr NSPCC ddim yn gallu rhoi chwarae teg i blant Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol am eu bod yn cau canolfan alwadau ym Mangor ymhen mis.
Dyna farn un dyn sydd wedi gadael yr elusen ar ôl 18 mlynedd. Roedd Chris O’marah yn gyfrifol am ddatblygu cynllun iaith Gymraeg yr NSPCC.
Bellach mae gwasanaeth ffôn y Gwasanaeth Atal Creulondeb i Blant yr NSPCC yn cael ei anelu at blant mewn dinasoedd mawr poblog, meddai.
“Mae’n rhan o’r strategaeth i symud pethau i ffwrdd o ogledd orllewin Cymru. Mae llinell gymorth Cymru gyfan wedi ei sefydlu ym Mangor ers canol y 1980au,” meddai Chris O’marah, fu’n arweinydd tîm y llinell gymorth am 10 mlynedd yn y ddinas.
Mae’r NSPCC yn cadarnhau fod cau swyddfa Bangor yn rhan o strategaeth newydd sy’n anelu at gyrraedd mwy o blant.
“Er mwyn cyflawni hyn, yr ydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau am ein blaenoriaethau a le mae’r ffocws am fod,” meddai Des Manion, Pennaeth yr NSPCC yng Nghymru.
Ychwanegodd y bydd uno llinell gymorth Cymru a gweddill Prydain yn golygu bod gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn hytrach na rhwng 10 y bore a chwech yr hwyr yn ystod dyddiau’r wythnos.
Darllenwch fwy yng nghylchgrawn Golwg y Steddfod