Mae’r gantores Mared Lenny wedi cael ei tharo’n ddifrifol wael, a gorfod canslo’i threfniadau ar gyfer yr Eisteddfod.

Bu’n rhaid i’r gantores o Gaerfyrddin, sy’n canu dan yr enw Swci Boscawen, gael llawdriniaeth frys i dynnu tyfiant ar yr ymennydd ddydd Gwener diwethaf.

“Roedd hi wedi bod yn achwyn o bennau tost ers tua dau fis ac roedd hi’n argyhoeddiedig bod rhywbeth o le,” meddai ei thad, Alun Lenny.

Wedi mynd i Uned Frys Ysbyty Glan Gwili Caerfyrddin wythnos yn ôl, bu’n rhaid i Mared Lenny gael ei rhuthro i Gaerdydd am driniaeth frys ar y tiwmor yn Uned Niwrolegol yr Ysbyty Athrofaol.

Yn ôl y llawfeddyg mae’r llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus ac yn argoeli’n dda.

Stori o Gylchgrawn Golwg, Gorffennaf 29