Mae Prif Weinidog Prydain wedi cynhyrfu’r dyfroedd trwy gyhuddo Pacistan o helpu i allforio terfysg i India ac Afghanistan.
Ar ymweliad ag India, fe ddywedodd David Cameron na ddylai Pacistan gael edrych “dwy ffordd” – ac mae’r sylwadau wedi ennyn gwrthwynebiad mawr yno.
“Allwn ni ddim godde’, mewn unrhyw ffordd, y syniad bod Pacistan yn cael edrych y ddwy ffordd ac yn cael hybu allforio terfysg, mewn unrhyw ffordd, boed i India neu Afghanistan neu unrhyw le arall yn y byd,” meddai wrth ateb cwestiynau yn Bangalore.
Yr ymateb
Mae gwleidyddion a swyddogion ym Mhacistan wedi ymateb yn feirniadol – mae’r ffaith bod y sylwadau wedi eu gwneud yn India yn ychwanegu at eu dicter.
Mae’r ddwy wlad yn elynion traddodiadol tros ardaloedd fel Kashmir ac mae India wedi cyhuddo Pacistan o fod y tu cefn i ymosodiadau terfysgol yn y gorffennol.
Yn India, roedd papurau newydd hefyd yn rhoi sylw mawr i’r sylwadau a ddaeth wrth i David Cameron geisio ennill cytundebau busnes newydd yn India.
Mae sylwebwyr gwleidyddol yn ceisio dyfalu a oedd y sylwadau yn gwbl fwriadol – tra byddan nhw wedi plesio India, mae Pacistan hefyd yn wlad allweddol yn y frwydr yn erbyn y Taliban ac al Qaida.
‘Perthynas arbennig’
Y gred yw bod y Llywodraeth newydd yn ceisio creu ‘perthynas arbennig’ gydag India, sy’n ffynnu’n economaidd, ac roedd yna gytundeb ddoe i werthu 57 o awyrennau Hawk iddi.
Ond y disgwyl yw y bydd David Cameron yn cael rhywfaint o drafferthion yn India hefyd tros bolisi’r Llywodraeth i geisio â chyfyngu ar fewnfudwyr.
Llun: David Cameron yn India ddoe (Gwifren PA)