Mae fwy nag 3,000 o fwcedi llawn cemegau wedi eu sgubo i mewn i afon yn ystod llifogydd gwaethaf China ers mwy nag degawd.
Disgynnodd y bwcedi llawn cemegau fflamadwy i mewn i Afon Songhua ger Jillin ar ôl i lifogydd sgubo drwy ffatri yn y ddinas, meddai asiantaeth newyddion Xinhua.
Hyd yn hyn dim ond 400 o’r bwcedi sydd wedi dod i’r golwg ac mae gweithwyr yn profi’r dyfroedd i weld a ydi’r bwcedi wedi gollwng. Roedd y cemegau yn cael eu defnyddio er mwyn gwneud rwber.
Yn 2005 disgynnodd cemegau eraill i’r afon yn Jillin gan orfodi dinas Harbin ymhellach i lawr yr afon i wahardd 3.8 miliwn o bobol rhag yfed y dŵr am bum diwrnod cyfan.
Mae’r llifogydd eleni eisoes wedi lladd 928 o bobol ac achos difrod werth biliynau o ddoleri. Mae 477 o bobol eraill dal ar goll, yn ôl Swyddfa Rheoli Llifogydd a Sychder y wlad.