Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu atal cyflogwyr rhag gorfodi gweithwyr 65 oed i ymddeol.
Ar hyn o bryd mae cyflogwyr yn gallu gorfodi eu staff i ymddeol yn 65 oed heb iawndal na rheswm, hyd yn oed os ydy’r gweithiwr yn gallu ac eisiau parhau i weithio.
Nod y Llywodraeth yw newid y drefn erbyn mis Hydref 2011, gan annog pobol i weithio’n hirach wrth iddyn nhw fyw yn hirach.
Mae sefydliadau sy’n gwrthwynebu gwahaniaethu ar sail oedran wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Rydyn ni wedi’n calonogi’n fawr,” meddai Dianah Worman o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
“Mae ein hymchwil ni’n dangos fod nifer o weithwyr yn dymuno gweithio’n hirach na’u hoed ymddeol, am sawl rheswm, ac fe fydd cyflogwyr hefyd yn elwa ar yr hyblygrwydd newydd yma.”
Yn ôl Rachel Krys o’r grŵp Employers Forum on Age mae’r penderfyniad yn “naid anhygoel ymlaen”.
“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, mi fydd y gyfraith o’r diwedd yn adlewyrchu’r ffaith mai gwahaniaethu ar sail oedran ydi gorfodi rhywun i ymddeol am eu bod nhw’n 65 oed.”
Pensiwn y wladwriaeth
Dywedodd Llywodraeth San Steffan y bydden nhw hefyd yn dechrau ystyried pryd y dylen nhw godi oed ymddeol pensiwn y wladwriaeth i 66 oed.
Mi fydden nhw hefyd yn ystyried ail-osod y cyswllt rhwng pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ac enillion.