Mae yna bryderon nad ydi’r BBC yn ei gwneud hi’n amlwg bob tro a ydi newyddion yn berthnasol i Gymru a’r gwledydd datganoledig ai peidio.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd mae yna bryderon ynglŷn â straeon newyddion “dryslyd a chamarweiniol” sy’n methu a’i gwneud hi’n glir mai yn Lloegr yn unig maen nhw’n berthnasol.
Roedd yr ymchwil yn dweud bod pedwar ym mhob 10 o straeon newyddion y BBC ar faterion oedd yn ymwneud â Lloegr yn unig wedi methu a gwneud hynny’n glir.
Gwasanaeth radio’r BBC oedd fwyaf tebygol o fethu ag egluro ym mha wledydd oedd y newyddion yn berthnasol, tra bod newyddion teledu a rhyngrwyd y gorfforaeth yn tueddu i wneud hynny.
Dywedodd yr ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd mai ar bleidiau gwleidyddol San Steffan a sefydliadau yn Lloegr oedd rhan o’i bai.
Roedden nhw’n tueddu i gyhoeddi polisïau a mentrau heb ei gwneud hi’n glir mai yn Lloegr yn unig y bydden nhw’n weithredol.
Dywedodd y BBC eu bod nhw’n derbyn y feirniadaeth ac y bydden nhw’n atgoffa golygyddion ynglŷn â phwysigrwydd ystyried materion datganoledig.
Mwy o sylw
Er gwaetha’r feirniadaeth dywedodd yr ymchwil fod yna gynnydd “arwyddocaol” yn faint o sylw oedd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael gan y BBC.
Roedd 14.2% o newyddion teledu’r BBC yn ymwneud â’r gwledydd datganoledig yn 2009, o’i gymharu gyda 7.8% dwy flynedd ynghynt.
Ond roedd yr ymchwil yn dangos bod bob stori newyddion ynglŷn â busnes, y celfyddydau a heddluoedd yn ystod cyfnod yr ymchwiliad yn ymwneud â Lloegr yn unig.