Mi gollodd Radio Cymru bron i draean o’i gwrandawyr ar ddiwedd blwyddyn gynta’i hamserlen newydd, yn ôl adroddiad mewnol y BBC sydd wedi dod i sylw cylchgrawn Golwg.
Mae Golwg wedi cael copi o adroddiad sy’n crynhoi cynulleidfa Radio Cymru yn ystod 12 mis cynta’r amserlen newydd hyd at Fedi 2009.
Y llynedd, rhwng yr ail chwarter (Ebrill, Mai, Mehefin) a’r trydydd (Gorffennaf, Awst, Medi), mi wnaeth y nifer sy’n gwrando’n wythnosol blymio o 171,000 i 122,000 – cwymp o 49,000 neu 28.6%.
Cafwyd storom o brotest yn y wasg a’r cyfryngau Cymraeg yn 2008 pan benderfynodd Radio Cymru roi’r gorau i ddarlledu rhaglenni’n benodol ar gyfer gwahanol rannau o Gymru, gyda chwynion llafar yn dod o’r gorllewin
Mae Radio Cymru yn talu’r pris am beidio gwrando ar y lleisiau oedd yn gwrthwynebu newid amserlen y rhaglenni, yn ôl cyn-bennaeth Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.
“Dw i ddim yn synnu fod y nifer wedi gostwng, am fod y BBC wedi gwrthod gwrando ar eu gwrandawyr,” meddai Eifion Lloyd Jones.
“Pan fo teimladau mor gryf, mae’n annoeth eu hanwybyddu – heb reswm digonol dros hynny… a doedd dim.”
Darllenwch weddill y stori yng nghynlchgrawn Golwg cynta’r Eisteddfod