Mae prif bapur yr Alban yn proffwydo rhagor o drafferthion i fwriad y Llywodraeth i gynnal refferendwm pleidleisio ar yr un dydd ag etholiadau’r Cynulliad.
Mae’r Scotsman yn dyfynnu aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn dweud y byddan nhw’n “chwalu’r” syniad pan ddaw ger eu bron nhw yn yr ail siambr.
Y disgwyl yw y bydd arglwyddi Llafur a Cheidwadol yn uno yn erbyn y bwriad i gynnal y refferendwm ar 5 Mai y flwyddyn nesa’ – yr un dydd ag etholiadau i seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae 44 AS Ceidwadol hefyd wedi arwyddo cynnig yn erbyn yr amseru ac mae Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin yn dweud eu bod nhw yn erbyn oherwydd bod y newid yn y system bleidleisio yn cael ei gyplysu gyda gostyngiad yn nifer seddi seneddol.
Llun: Ty’r Arglwyddi