Mae’r Cymro Mark Hughes wedi derbyn cynnig i fod yn hyfforddwr Fulham yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Fe fydd cyn hyfforddwr tîm rhyngwladol Cymru, a Manchester City, yn cymryd lle Roy Hodgson, adawodd yn yr haf er mwyn hyfforddi Liverpool.

Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, a cyn reolwr Lloegr, Sven-Goran Eriksson, hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd.

Penderfynodd perchennog Fulham, Mohamed Al Fayed, gynnig y swydd i Mark Hughes ar ôl methu a denu Martin Jol o Ajax yr wythnos diwethaf, yn ôl papur newydd y Guardian.

Mae disgwyl y bydd Mark Hughes yn mynd a cyn chwaraewr arall dros dîm Cymru, Mark Bowen, gyda fo i Craven Cottage fel hyfforddwr cynorthwyol.

Mae disgwyl i Mark Hughes arwyddo’r chwaraewr canol cae Steve Sidwell o Aston Villa, a gôl-geidwad Lloegr, David James, sydd wedi gadael Portsmouth.

Dechreuodd gyrfa hyfforddi Mark Hughes gyda phum mlynedd â thîm Cymru, a bu bron iddo eu harwain nhw i bencampwriaeth Ewro 2004 cyn colli gêm ail gyfle yn erbyn Rwsia.

Yna treuliodd pedwar tymor llwyddiannus gyda Blackburn Rovers, cyn gadael am Manchester City yn 2008. Collodd ei swydd ym mis Rhagfyr y llynedd ac roedd sawl un yn credu ei fod o wedi ei drin yn annheg.