Mae hyfforddwr tîm dan 21 Cymru, Brian Flynn wedi enwi pedwar chwaraewr enillodd capiau llawn dros Gymru ym mis Mai yn ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Malta mis nesaf.
Chwaraeodd Hal Robson-Kanu, Christian Ribeiro, Neil Taylor a Mark Bradley i dîm John Toshack yn erbyn Croatia ar ddiwedd y tymor yn dilyn cyfres o anafiadau ymysg aelodau hŷn y garfan.
Fe fydd y tîm dan 21 yn wynebu gemau rhagbrofol allweddol ym mis Medi yn erbyn Hwngari a’r Eidal ac mae disgwyl i’r llanciau profiadol ddychwelyd i’r garfan.
Mae Flynn wedi cynnwys tri chwaraewr sydd heb chwarae i’r tîm dan 21 o’r blaen, sef Jonathan Bond, Jonathan Williams a Richard Peniket.
Mae Cymru ar frig y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd – tri pwynt o flaen yr Eidal a phedwar pwynt o flaen Hwngari.
Carfan tîm dan 21 Cymru
David Cornell (Abertawe) Jonathan Bond (Watford) Daniel Alfei (Abertawe) Adam Matthews (Caerdydd) Aaron Morris (Dim clwb) Christian Ribeiro (Dinas Bryste) Ashley Richards (Abertawe) Neil Taylor (Abertawe) Mark Bradley (Rotherham Utd) Shaun MacDonald (Abertawe) Joe Partington (AFC Bournemouth) Jonathan Williams (Crystal Palace) Ryan Doble (Southampton) Jake Taylor (Reading) Billy Bodin (Swindon) Elliot Chamberlain (Caerlŷr) Richard Peniket (Fulham) Hal Robson-Kanu (Reading)
Chwaraewyr wrth gefn
Rhys Taylor (Chelsea) Josh Dawkin (Norwich) Adam Henley (Blackburn Rovers) David Stephens (Hibernian) Ashton Taylor (Tranmere Rovers) Tom Bender (Colchester Utd) Tom Lawrence (Man Utd) Lee Lucas (Abertawe) Kayelden Brown (West Bromwich Albion) Casey Thomas (Abertawe)