Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan 12 dyn ar gyfer eu gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Swydd Caerloyw yn Cheltenham dydd Gwener.

Roedd y Dreigiau wedi esgyn i’r ail safle yn y tabl yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Swydd Caerlŷr – pum pwynt ar y blaen i Swydd Caerloyw, sy’n drydydd, ond 11 pwynt y tu ôl i Sussex sydd ar frig y tabl.

Mae gan y Dreigiau record gweddol yn Cheltenham gan ennill yn 2002 a hefyd ar eu hymweliad diwethaf yno yn 2006 pryd y sgoriodd Michael Powell 299 o rediadau.

Mae Mark Cosgrove wedi ei gynnwys yn y garfan er iddo anafu ei fys yn erbyn Sussex dydd Sul.

Carfan Morgannwg

Gareth Rees, Mark Cosgrove, Tom Maynard, Ben Wright, Jamie Dalrymple, Jim Allenby, Mark Wallace, James Harris, Robert Croft, Dean Cosker, David Harrison, Huw Waters.